Rydym yn dwyn ynghyd arbenigedd addysgol ôl-16 mewn addysgu a dysgu, cydraddoldeb, amrywiaeth a chymhwysiant, arweinyddiaeth a rheolaeth a llywodraethu, i helpu darparwyr i gynnig addysgu, ymchwil ac ysgoloriaeth o safon fyd-eang, cyflawni eu cenhadaeth ddinesig eu hunain a sicrhau llwyddiant myfyrwyr yn eu sefydliad.
Gwnawn hyn trwy gynnig gwybodaeth ac adnoddau arbenigol, meincnodi a gydnabyddir yn allanol a chynlluniau cydnabod a dull gweithredu cydweithredol sy'n canolbwyntio ar aelodau.
Cynigiwn achredu trwy Gymrodoriaethau a siarteri cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant: Athena SWAN a'r Siarter Cydraddoldeb Hil a datblygu trwy raglenni agored, rhaglenni pwrpasol ac ymgynghoriaeth.
Oes gennych chi gwestiwn?
Cliciwch isod a chwblhewch y ffurflen i ofyn cwestiwn. Byddwn yn cysylltu â chi o fewn dau ddiwrnod gwaith.
Gweithio gyda Chymru
Yng Nghymru, mae AU Ymlaen yn gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru, CCAUC (HEFCW), Prifysgolion Cymru, Colegau Cymru, y naw Prifysgol a Cholegau AB sy'n cynnig darpariaeth AU. Mae gan AU Ymlaen Bennaeth Aelodaeth yng Nghymru, Uwch Ymgynghorydd penodedig ar gyfer addysgu a dysgu a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a Chymrodorion sy'n gweithio yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig sy'n cynnig arweinyddiaeth arbenigol, llywodraethu, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, addysgu a dysgu a dealltwriaeth dda o gyd-destun Cymru yn y disgyblaethau hyn.
Mae ein hymgysylltiad ffurfiol â sector AU Cymru trwy grŵp rhanddeiliaid AU Ymlaen sy'n cwrdd bob chwe mis gyda chynrychiolaeth o CCAUC(HEFCW), Prifysgolion Cymru, Adnoddau Dynol Prifysgolion Cymru, Cadeiryddion Prifysgolion Cymru, Clercod ac Ysgrifenyddion Cymru, Grŵp Dysgu ac Addysgu Dirprwy Gangellorion a Dirprwy Gangellorion Ymchwil. Mae'r grŵp hwn yn llywio ffocws gweithgarwch AU Ymlaen yng Nghymru, gan gynnwys penderfynu ar unrhyw fentrau a gyllidir gan CCAUC/traws-sector.
Aelodaeth AU Ymlaen yng Nghymru
Rydym yn falch bod pob un o naw Prifysgol Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r saith Coleg Addysg Bellach yn parhau i ddewis bod yn aelodau o AU Ymlaen.
Mae aelodau AU Ymlaen yn cael nifer o fuddion aelodau.
Fel aelodau, bydd gan sefydliadau Bennaeth Aelodaeth penodedig AU Ymlaen Cymru sy'n ymgysylltu â'r sector yn fwy eang trwy'r dulliau canlynol er mwyn sicrhau cyfres adeiladol o weithgareddau yng Nghymru.
- Ymweliadau sefydliadol (AU ac AB sy'n addysgu AU)
- Trefnu:
- Grŵp Sefydliadol AU Ymlaen Cymru (Dysgu ac Addysgu)
- Grŵp Cyswllt Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant AU Ymlaen Cymru
- OSD Cymru (trefniadaethol a datblygu staff)
- Mynychu, trwy wahoddiad, cyfarfodydd o:
- Adnoddau Dynol Prifysgolion Cymru
- Clercod ac Ysgrifenyddion Cymru
- Cyfarfodydd ar y cyd Cadeiryddion Prifysgolion Cymru a Chlercod ac Ysgrifenyddion Cymru
- Grŵp Dysgu ac Addysgu Dirprwy Gangellorion
- Dirprwy Gangellorion Ymchwil
- Cyfarfodydd yn ôl y gofyn â:
- Llywodraeth Cymru
- CCAUC(HEFCW)
- Prifysgolion Cymru
- Colegau Cymru
Rydym hefyd yn ymgysylltu â sefydliadau megis QAA, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru a Chwarae Teg i ddatblygu synergeddau ac osgoi dyblygu.
Gweithio gyda'r Gymraeg
Mae AU Ymlaen yn ymrwymedig i ddarparu ymateb cyfrannol at yr angen am adnoddau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn ymgysylltu â'r gymuned i sicrhau bod adnoddau allweddol ar gael yn ddwyieithog.
Byddwn hefyd yn ystyried sefydlu panel adolygu blynyddol ar gyfer ceisiadau Cymrodoriaeth yn Gymraeg yn ogystal â gweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sefydlu grŵp AU Ymlaen Cyswllt Cymraeg ar gyfer darlithwyr sy'n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Byddwn yn gweithio gyda chymunedau Cymraeg eu hiaith yn y sector i weld a oes galw am ddarparu cyrsiau datblygu arweinyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Rhaglenni datblygu a digwyddiadau yng Nghymru
Fe welwch isod y rhaglenni datblygu a digwyddiadau penodol sy'n cael eu cynnal yng Nghymru.
Gallwch weld ein rhaglenni agored, cynadleddau a digwyddiadau yma hefyd
Aurora - Caerdydd
Mae un garfan y flwyddyn yn cael ei rhedeg yng Nghaerdydd.
Cymorth ar gyfer sefydliadau Cymru
Fel y nodwyd uchod, bydd Pennaeth Aelodaeth yng Nghymru yn ymweld â sefydliadau ac unigolion i'w helpu i wneud y mwyaf o'u haelodaeth, buddion cysylltiedig, gan gynnwys AU Ymlaen Cyswllt ar gyfer cymunedau o ymarfer, a chynnig atebion cynnyrch parod a phwrpasol i'r heriau a'r cyfleoedd a wynebir.
Cymorth penodol yng Nghymru
Darparwn gynllun gwaith buddion aelodau penodol yng Nghymru, wedi'i gytuno ar y cyd â CCAUC(HEFCW) a Chadeirydd Grŵp Dysgu ac Addysgu Dirprwy Gangellorion.
Yn 2019/20 y ffocws y cymorth oedd y rhaglen boblogaidd 'Menter Llesiant Addysg Uwch Cymru', oedd yn cynnwys corffori iechyd meddwl a llesiant yn y cwricwlwm.
Nodir isod y cymorth cyffredinol y mae AU Ymlaen yn ei gynnig i bob sefydliad.
Gwasanaethau i bob Aelod o AU Ymlaen y Deyrnas Unedig
Gwasanaethau ymgynghori a gwella
Rhaglenni mewnol pwrpasol
Cymorth Cymrodoriaeth
Prosiectau cydweithredol
Athena SWAN a chymorth Siarter Cydraddoldeb Hil
Cymorth i unigolion sy'n gweithio yng Nghymru
Gall pob aelod o staff a llywodraethwr ym Mhrifysgolion Cymru a'r saith Coleg AB gael mynediad i'r amrywiaeth lawn o fuddion aelodau AU Ymlaen. Gall unigolion hefyd fynychu Digwyddiadau, Cynadleddau a Hyfforddiant a gyllidir gan AU Ymlaen a chael mynediad agored i blatfform rhwydweithio AU Ymlaen Cyswllt. Gallwn weithio gydag unigolion neu eu rheolwyr llinell hefyd i nodi cyfleoedd datblygu personol.
Rydym yn ystyried sefydlu rhwydwaith o Brif Gymrodorion trwy'r Grŵp Sefydliadol AU Ymlaen Cymru a chymunedau eraill trwy ein platfform AU Ymlaen Cyswllt.
Advance HE Connect
Y rhwydwaith ar-lein ar gyfer addysg uwch yn unig
Mae ein nod, sef i bawb sy'n gweithio ym maes AU rannu, cysylltu a chydweithredu mewn un lle, yn cael ei hwyluso gan grwpiau rhwydwaith, fforymau, canolfannau cyfryngau a phrosiectau grŵp. Mae mwy na 16,500 o ddefnyddwyr eisoes yn dod ynghyd i ymgysylltu ar bynciau allweddol AU, gan gynnwys cydraddoldeb a chynhwysiant, addysgu a dysgu a llwyddiant myfyrwyr.
Cwrdd â'r tîm
Gary Reed
Pennaeth Aelodaeth (Cymru) / Head of Membership (Wales)
E: Gary.Reed@advance-he.ac.uk
Ff: +44 (0) 3300 416 201
S +44 (0) 7701 369 155
David Bass
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Aelodaeth (yr Alban, Iwerddon, Cymru)
E: David.Bass@advance-he.ac.uk
Ff: +44 (0) 131 322 3736
S: +44 (0) 7701 368 405
Joan O' Mahony
Uwch Ymgynghorydd (Cadw a Llwyddiant Myfyrwyr)
E: Joan.OMahony@advance-he.ac.uk
Ff: +44 (0) 1904 917 115
S: +44 (0) 7912 043 076