Skip to main content

Cyfeiriadau'r Dyfodol ar gyfer addysg uwch yng Nghymru

English

Mae Cyfeiriadau'r Dyfodol yn cwmpasu'r gwaith gwella ansawdd sy'n digwydd yn y sector Addysg Uwch yng Nghymru. Ei nod yw gwella meysydd penodol o brofiad dysgu'r myfyriwr drwy annog staff a myfyrwyr i rannu arfer da a chreu syniadau a modelau ar gyfer arloesi mewn dysgu ac addysgu. Mae gwaith Cyfeiriadau'r Dyfodol yn cael ei gynllunio a'i gyfarwyddo gan grŵp llywio Cyfeiriadau'r Dyfodol sy'n cael ei gydlynu gan yr Academi Addysg Uwch.

Graddedigion Er Mwyn Ein Dyfodol, 2010 - 2014

Yn 2009, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Er Mwyn Ein Dyfodol: Strategaeth a Chynllun Addysg Uwch ar gyfer Cymru yn yr Unfed Ganrif ar Hugain. Roedd y ddogfen yn amlinellu dwy flaenoriaeth ar gyfer addysg uwch: sicrhau cyfiawnder cymdeithasol; a chefnogi economi ffyniannus. Ar gyfer y sector, mae hyn yn golygu blaenoriaethu themâu strategol ehangu mynediad, profiad myfyrwyr, sgiliau, trosglwyddo gwybodaeth ac ymchwil. Un o themâu cyntaf gwella ansawdd Cymru oedd mynd i'r afael â rhai o'r rhain. Fe drefnodd yr Academi Addysg Uwch ddigwyddiad i'r sector yn 2010, a dyna lle daeth y thema Graddedigion Er Mwyn Ein Dyfodol i'r fei. Roedd gan y thema dri maes gwaith:

  • Myfyrwyr fel Partneriaid
  • Dysgu mewn Cyflogaeth
  • Dysgu ar gyfer Cyflogaeth.

Cafodd y thema a'r meysydd gwaith eu harddangos yn Nghynhadledd Agoriadol Cyfeiriadau'r Dyfodol – Graddedigion Er Mwyn Ein Dyfodol ar 26 Ebrill 2012 ym Mhrifysgol Glyndŵr, ac yna yn ail Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Cyfeiriadau'r Dyfodol, rhwng 2 a 3 Ebrill 2014 ym Mhrifysgol Aberystwyth, pan ddaeth y meysydd gwaith i ben.

Graddedigion Byd-eang: Galluogi Dysgu Hyblyg, 2013 - presennol

Cafodd polisi Llywodraeth Cymru ei ddatblygu ymhellach yn ei Datganiad Polisi ar Addysg Uwch yn 2013. Ym mis Mehefin 2013, nododd grŵp llywio Cyfeiriadau'r Dyfodol ail thema gwella Cyfeiriadau'r Dyfodol ar gyfer sector addysg uwch Cymru, Graddedigion Byd-eang: Galluogi Dysgu Hyblyg. Mae'r thema gwella yma yn adeiladu ar lwyddiannau'r thema gwella flaenorol, Graddedigion Er Mwyn Ein Dyfodol, a'i meysydd gwaith. Fe ddechreuodd yn ail gynhadledd Cyfeiriadau'r Dyfodol yn 2014. Y tri maes gwaith yn y thema yma yw:

  • Graddedigion Nodedig
  • Addysgu Ysbrydoledig
  • Teithiau Dysgwyr

Llinynnau gwaith Cyfeiriadau’r Dyfodol o 2014 ymlaen

Graddedigion Byd-eang: Galluogi Dysgu Hyblyg

Ym mis Mehefin 2013, nododd grŵp llywio Cyfeiriadau'r Dyfodol ail thema gwella Cyfeiriadau'r Dyfodol ar gyfer sector addysg uwch Cymru, Graddedigion Byd-eang: Galluogi Dysgu Hyblyg. Y tri llinyn gwaith yn y thema newydd hon oedd:

  • Graddedigion Nodedig
  • Addysgu sy'n Ysbrydoli
  • Teithiau Dysgwyr

Mae'r thema gwella newydd yn adeiladu ar lwyddiannau'r thema gwella flaenorol, Graddedigion Er Mwyn Ein Dyfodol, a'i llinynnau gwaith. Cafodd Graddedigion Byd-eang: Galluogi Dysgu Hyblyg a'r tri llinyn gwaith newydd eu 'lansio'n ysgafn' yn hydref 2013 a bu'n rhedeg ochr yn ochr â'r thema flaenorol, Graddedigion Er Mwyn Ein Dyfodol, nes diwedd cynhadledd Cyfeiriadau'r Dyfodol yng ngwanwyn 2014.

Graddedigion Nodedig

Roedd grŵp Graddedigion Nodedig yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau ac asiantaethau allweddol i'r sector yng Nghymru. Roedd yn cael ei arwain gan Lloyd Williams o Brifysgol De Cymru. Ei nod oedd canfod a deall y gyfres o sgiliau a rhinweddau sy'n cael eu datblygu gan fyfyrwyr yng Nghymru. Cafodd meddylfryd byd-eang, ystwythder diwylliannol ac uwch sgiliau cyfathrebu neu iaith eu nodi fel nodweddion sy'n debygol o arwain graddedigion i lwyddo ar lwyfan rhyngwladol. Bu'r grŵp yn archwilio sut mae sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn darparu modd a dull o gyflwyno profiad dysgu a gweithio sy'n debygol o ddylanwadu ar esblygiad y priodoleddau hyn. Bu'r llinyn gwaith yn archwilio pa elfennau penodol o brofiad y myfyriwr yng Nghymru sy'n siapio gallu ein graddedigion i berfformio'n llwyddiannus yn y farchnad lafur ryngwladol.

Addysgu sy'n Ysbrydoli

Roedd grŵp Addysgu sy'n Ysbrydoli yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau ac asiantaethau allweddol i'r sector yng Nghymru. Roedd yn cael ei arwain gan Graham Lewis o Brifysgol Aberystwyth. Ei nod oedd archwilio sut mae darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn ysbrydoli datblygiad addysgu ac yn gwerthfawrogi enghreifftiau o addysgu ysbrydoledig. Mae'n ymwneud â sut rydyn ni'n creu amgylchedd sy'n annog ymchwilio i ymarfer addysgu ac yn dathlu arloesedd. Mae'n ymwneud â sut rydyn ni'n sicrhau bod y cymorth rydyn ni'n ei roi i athrawon addysg uwch, yn ystyried yr amgylchedd mae academyddion yn gweithio ynddo, ac yn addas i'r diben. Mae maes Addysgu sy'n Ysbrydoli yn anelu at barhau i rannu a dathlu arferion da sy'n bodoli eisoes ac archwilio sut y gallwn ni weithio ledled Cymru er mwyn gwella ansawdd addysgu addysg uwch a'r profiad i fyfyrwyr ymhellach.

Teithiau Dysgwyr

Roedd grŵp Teithiau Dysgwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau ac asiantaethau allweddol i'r sector yng Nghymru. Roedd yn cael ei arwain gan Jo Smedley o Brifysgol De Cymru. Roedd yn ffenestr i weld darpariaeth ddysgu mewn dulliau anhraddodiadol gwahanol. Roedd yn darparu ymateb Cymru gyfan i Ddatganiad Polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Uwch yn gynnar ym mis Mehefin 2013 a oedd yn nodi'r angen i ddatblygu "modelau mwy hyblyg o ddarpariaeth" yn ei set o flaenoriaethau hyd at 2020. Mae teithiau dysgwyr yn gallu bod yn amrywiol iawn, o brofiadau traddodiadol llawn-amser i brofiadau mwy tameidiog sy'n golygu gadael addysg am gyfnod ac ail-afael mewn dysgu yn nes ymlaen, symud dysgu o un man i'r llall, a dysgu sy'n digwydd ar wahanol gyflymder mewn gwahanol leoliadau. Mae dyluniad y cwricwlwm ac asesu yn elfennau pwysig o ran sicrhau bod profiad dysgwyr yn gyson o ran ei ansawdd, beth bynnag fo'r llwybr a ddilynir.

Llinynnau gwaith Cyfeiriadau’r Dyfodol hyd at 2014

Graddedigion ar gyfer ein Dyfodol

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Er mwyn ein Dyfodol: Strategaeth a Chynllun Addysg Uwch ar gyfer Cymru yn 2009. Mae’r ddogfen yn amlinellu dwy flaenoriaeth ar gyfer addysg uwch: sicrhau cyfiawnder cymdeithasol; a chynnal economi ffyniannus. I’r sector, mae hyn yn golygu blaenoriaethu themâu strategol ehangu mynediad, profiad myfyrwyr, sgiliau, trosglwyddo gwybodaeth ac ymchwil. Sefydlwyd thema gwella ansawdd gyntaf Cymru er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r rhain. Trefnodd yr Academi Addysg Uwch ddigwyddiad i’r sector yn 2010 a arweiniodd at adnabod thema – Graddedigion ar gyfer ein dyfodol – ynghyd â thri llinyn gwaith:

  1. Myfyrwyr fel Partneriaid
  2. Dysgu mewn Cyflogaeth
  3. Dysgu ar gyfer Cyflogaeth.

Cyflwynwyd y thema a’r llinynnau gwaith yng Nghynhadledd Gyntaf Cyfeiriadau’r Dyfodol – Graddedigion ar gyfer ein Dyfodol ar 26 Ebrill 2012 ym Mhrifysgol Glyndŵr ac unwaith eto yng nghynhadledd Aberystwyth yn 2014. Yn sgil y gynhadledd honno mae gan Gyfeiriadau’r Dyfodol thema newydd a thri llinyn gwaith newydd.

Llinyn gwaith Dysgu ar gyfer Cyflogaeth

Roedd y grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o holl sefydliadau ac asiantaethau allweddol y sector yng Nghymru, dan arweiniad Dr Colleen Connor o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mabwysiadodd y grŵp ddiffiniad o gyflogadwyedd sy’n cyfateb â diffiniad Yorke, un sy’n cael ei dderbyn yn eang (Yorke 2006) sy’n datgan mai cyflogadwyedd graddedigion yw ennill ‘y sgiliau, dealltwriaeth a’r rhinweddau personol sy’n gwneud unigolyn yn fwy tebygol o sicrhau swydd a bod yn llwyddiannus yn yr alwedigaeth o’u dewis’. Yn 2011/12, casglodd y grŵp amrywiaeth eang o astudiaethau achos o bob rhan o Gymru er mwyn rhannu’r arferion gorau cyfredol. Mae’r ddogfen ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Learning for employment - Welsh version
26/02/2012
Learning for employment - Welsh version View Document
Learning for employment
26/02/2012
Learning for employment View Document

Parhaodd y gwaith yn 2012/13 ac mae’r ddogfen isod yn crisialu’r gwersi hanfodol a nodwyd gan gydweithwyr ar draws y sector Addysg Uwch yng Nghymru. Mae’r cyhoeddiad ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Learning for employment: Lessons Learnt - Welsh version
26/04/2013
Learning for employment: Lessons Learnt - Welsh version View Document
Learning for employment: Lessons Learnt
26/04/2013
Learning for employment: Lessons Learnt View Document

Llinyn gwaith Dysgu mewn Cyflogaeth

Roedd grŵp llinyn gwaith Dysgu mewn Cyflogaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o holl sefydliadau ac asiantaethau allweddol y sector yng Nghymru. Dr Karen Fitzgibbon o Brifysgol De Cymru oedd yn arwain y llinyn gwaith. O 2013/14 ymlaen, mae’r llinyn gwaith Dysgu mewn Cyflogaeth wedi dod yn rhan o linyn gwaith newydd, Teithiau Dysgwyr.

At ddibenion y gwaith hwn, mae’r grŵp yn diffinio dysgu mewn cyflogaeth fel ‘achredu holl raglen ddysgu’r myfyriwr, neu ran ohoni, drwy gydnabyddiaeth ffurfiol o brofiad yn y gweithle’. Mae’r grŵp yn ymchwilio i ystod o ddulliau o ddysgu mewn cyflogaeth, rhannu arferion gorau a datblygu syniadau ar gyfer datblygu dysgu mewn cyflogaeth ar draws y sector yn y dyfodol.

Yn 2011/12, casglodd y grŵp Dysgu mewn Cyflogaeth amrywiaeth eang o astudiaethau achos o bob rhan o Gymru er mwyn rhannu’r arferion gorau cyfredol. Mae’r ddogfen ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Learning in Employment - Welsh version
20/04/2012
Learning in Employment - Welsh version View Document
Learning in Employment
20/04/2012
Learning in Employment View Document

Parhaodd y gwaith yn 2012/13 ac mae’r ddogfen isod yn crisialu’r gwersi hanfodol a nodwyd gan gydweithwyr ar draws y sector Addysg Uwch yng Nghymru. Mae’r cyhoeddiad ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Learning in Employment: Lessons learnt - Welsh version
26/04/2013
Learning in Employment: Lessons learnt - Welsh version View Document
Learning in Employment: Lessons learnt
26/02/2020
Learning in Employment: Lessons learnt View Document

Cyfeiriadau’r Dyfodol ar gyfer Sgiliau a Chyflogadwyedd

Roedd Cyfeiriadau’r Dyfodol ar gyfer Sgiliau a Chyflogadwyedd yn ddigwyddiad a gynhaliwyd ar y cyd ar 15 Mai gan yr Academi Addysg Uwch, yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Canolbwyntiodd y digwyddiad ar ddulliau ymarferol o ddatblygu sgiliau a chyflogadwyedd a’r ffordd orau o fesur effaith a llwyddiant mentrau o’r fath.

Llinyn gwaith Myfyrwyr fel Partneriaid

Roedd grŵp llinyn gwaith Myfyrwyr fel Partneriaid yn cynnwys cynrychiolwyr o bob sefydliad ac undeb myfyrwyr yng Nghymru yn ogystal ag asiantaethau allweddol y sector. Sarah Ingram o Brifysgol Caerdydd oedd yn arwain y llinyn gwaith. Edrychodd y grŵp ar agweddau gwahanol myfyrwyr fel partneriaid, gan rannu arferion gorau a thrafod modelau arloesol i’w datblygu yn y dyfodol. Yn 2011/12, casglodd y grŵp Myfyrwyr fel Partneriaid amrywiaeth eang o astudiaethau achos o bob rhan o Gymru er mwyn rhannu’r arferion gorau cyfredol. Mae’r ddogfen ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg:

Students as Partners - Future Directions - Welsh versions
26/02/2012
Students as Partners - Future Directions - Welsh versions View Document
Students as Partners - Future Directions
26/02/2012
Students as Partners - Future Directions View Document

Yn 2012/13, aeth y grŵp Myfyrwyr fel Partneriaid ati gyda gweithgareddau ar draws Cymru ac isod mae dogfen yn gwerthuso’r gwersi a ddysgwyd a’r wybodaeth a gasglwyd o’r llinyn gwaith hwn. Mae’r cyhoeddiad ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Students as Partners - Future Directions: Lessons learnt - Welsh version
26/04/2013
Students as Partners - Future Directions: Lessons learnt - Welsh version View Document
Students as Partners - Future Directions: Lessons learnt
26/04/2013
Students as Partners - Future Directions: Lessons learnt View Document